Llwybrau Beicio Mynydd Du/Caled
Dylai jyncis adrenalin beicio go iawn anelu’n syth am lwybrau Foel Gasnach ac Antur Stiniog ar gyfer rhai o’r traciau lawr allt ysgwyd y nerfau gorau sydd ar gael.
Mae gan Antur Stiniog wasanaeth codi ac amrywiaeth o draciau lawr allt o bob gradd, ond mae’n adnabyddus oherwydd ei lwybrau du a du dwbl – y profiad lawr allt gorau erioed.
Mae Foel Gasnach, yng Nghoedwig Clocaenog, ar agor i aelodau’n unig, ond mae’n werth talu’r tâl aelodaeth bach hyd yn oed os ydych ond yn ymweld am ychydig amser er mwyn profi’r pedwar trac lawr allt sydd wedi’u graddio ar gyfer pob gallu yr holl ffordd i fyny i hyfforddiant gaeaf i’r elît.